Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Mai 2017

Amser: 10. - 12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4154


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Rosemary Fletcher, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Alan Lawrie, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

John Palmer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Dr Jane Fenton-May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Isolde Shore-Nye, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Dr Charlotte Jones, BMA Cymru Wales

Ian Harris, BMA Cymru Wales

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2       Ymchwiliad i ofal sylfaenol - sesiwn dystiolaeth 1 - Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd Lleol

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd lleol.

 

3       Ymchwiliad i ofal sylfaenol - sesiwn dystiolaeth 2 - BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

 

4       Papurau i'w nodi

4.1   Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

4.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

4.3   Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

4.4   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghylch ystadegau gweithgarwch y GIG

4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

4.5   Llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol at holl Aelodau'r Cynulliad ynghylch safonau maeth mewn ysbytai ac ysgolion

4.5a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

6       Ymchwiliad i ofal sylfaenol - trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitemau 2 a 3 y cyfarfod.

 

7       Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 – paratoi ar gyfer craffu ariannol yn ystod y flwyddyn

7.1 Bu'r Pwyllgor yn  trafod sut y byddai’n mynd ati i graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

 

8       Trafod canllawiau Llywodraeth Cymru, 'Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd'

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar sut yr effeithiodd ganllawiau 'Cefnogi Dysgwyr â Gofal Iechyd' ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru).

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ragor o wybodaeth gan y Pwyllgor maes o law.